Y Cabinet - Gwybodaeth Gyffredinol

Mae’r Cabinet yn gyfrifol am baratoi polisïau yn Rhondda Cynon Taf. Mae’n gyfrifol am wneud nifer o’r penderfyniadau mawr hynny ar sut mae’r Cyngor yn gwasanaethu’i drigolion. Mae gan Rondda Cynon Taf gabinet – yn debyg i Lywodraeth San Steffan yn lLundain, a Llywodraeth y Cynulliad yn y Senedd, Bae Caerdydd. Mae’r Cabinet yn cynnwys 10 o Aelodau Gweithredol sydd â chyfrifoldeb arbennig dros wasanaethau’r Cyngor yn lleol.

Pwrpas y dudalen yma yw esbonio rôl y cabinet ac Aelodau Gweithredol yn Rhondda Cynon Taf. Mae’n trafod cwestiynau cyffredin.

Y Cabinet - Gwybodaeth Gyffredinol

Bydd y termau canlynol yn cael ei defnyddio tipyn ar y dudalen yma

  • ‘Aelod’ – Cynghorydd Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
  • Yr Adain Weithredol (Executive yn Saesneg) / y ‘Cabinet’, gan gynnwys Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelodau Gweithredol
  • ‘Aelod Gweithredol’ – Cynghorydd sy’n Aelod o’r Cabinet ac sydd â chyfrifoldebau arbennig

Beth yw’r Cabinet?

Mae’r Cabinet yn cynnwys Arweinydd, Dirprwy Arweinydd ac 8 Aelod Gweithredol arall sy’n gwneud penderfyniadau pwysig ac arwyddocaol. Swyddogaeth y Cabinet yw::

  • Rhoi arweiniad
  • Cynnig y gyllideb a fframwaith ar gyfer polisïau
  • Gweithredu polisïau drwy’r prif swyddogion

Mae Cylch Gorchwyl y Cabinet wedi’i bennu yn Adran 3A o Gyfansoddiad y Cyngor.

Beth yw Aelod Gweithredol?

Aelod Gweithredol yw Cynghorydd sydd â chyfrifoldeb arbennig dros un o feysydd gwaith y Cyngor megis addysg, trafnidiaeth neu wasanaethau cymdeithasol. Yr enw ar eu maes gwaith yw portffolio.

Pwy sy’n dewis yr Arweinydd a’r Cabinet?

Bydd yr Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd yn cael eu ethol yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor. Yna, yn unol â’i Gynllun Dirprwyo Swyddogaethau, yr Arweinydd sy’n penodi Aelodau Gweithredol i fod yn aelodau o’r Cabinet.

Pam mae angen Cabinet?

Tan 2001, roedd gan Gynghorau Cymru a Lloegr system Bwyllgorau ar gyfer gwneud penderfyniadau. O dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, roedd gofyn i Gynghorau newid y ffordd yr oedden nhw’n gwneud penderfyniadau a mabwysiadu system newydd. Mabwysiadodd Rhondda Cynon Taf y system Arweinydd a Chabinet yn 2002. Mae llawer o gynghorau Cymru a Lloegr wedi mabwysiadu’r system Arweinydd a Chabinet o wneud penderfyniadau.

Pa rwystrau a gwrthbwysau sydd yn eu lle?

Mae Pwyllgorau Craffu’r Cyngor yn craffu ar waith a phenderfyniadau’r Cabinet a’r Aelodau Gweithredol. Mae gan Gynghorwyr yr hawl, mewn rhai amgylchiadau, i ofyn am gael ‘galw i mewn’ penderfyniad a wnaed gan y Cabinet er mwyn i Bwyllgor Craffu gael ei ystyried.

Beth yw rôl y Cyngor llawn pan fydd Arweinydd a Chabinet i’w cael?

Mae’r Cabinet yn rhan bwysig o’r broses o wneud penderfyniadau yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf. Fodd bynnag, mae gan y Cyngor llawn (cyfarfod ar gyfer yr holl Gynghorwyr) hefyd ran bwysig i’w chwarae. Mae’r Cyngor llawn yn gwneud y canlynol:

  • Cymeradwyo neu wrthod y gyllideb a’r fframwaith ar gyfer polisïau
  • Dewis Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Cyngor
  • Mabwysiadu Cyfansoddiad
  • Penodi pwyllgorau i fod yn gyfrifol am y trosolwg a’r craffu o swyddogaethau a materion rheoliadol

Mae Cyfansoddiad y Cyngor yn pennu swyddogaethau a chyfrifoldebau’r Cyngor a’r Cabinet ill dau. Cyfansoddiad y Cyngor


Cynnwys wedi’i awdurdodi gan: Legal & Democratic Services
Adolygwyd ar: 23/6/2010