Ymgynghoriad ar y Cynllun Datblygu Lleol

Newidiadau Canolbwyntiedig ac Arweiniad Atodol Materion Cynllunio

Ymgynghoriad 14eg Ionawr – 24ain Chwefror 2010

Newidiadau Canolbwyntiedig

Mae’r Cyngor wedi rhoi ystyriaeth i’r sylwadau (cynrychioliadau) hynny a ddaeth i law gyda golwg ar y Cynllun Datblygu Lleol Adneuo. Yn sgil hynny, mae’n gweld efallai bod gofyn gwneud rhai newidiadau i ofalu bod y Cynllun yn gadarn. Mae’r newidiadau yma wedi’u pennu yn y 'Datganiad o Newidiadau Canolbwyntiedig' sydd ar gael isod.

Mae’r Cyngor yn gwahodd eich sylwadau chithau ar y newidiadau canolbwyntiedig yn ystod cyfnod ymgynghori sy’n para 6 wythnos, o 14eg Ionawr tan 24ain Chwefror 2010. Mae gofyn cyflwyno sylwadau copi caled erbyn 5pm, 24ain Chwefror 2010 a sylwadau electronig erbyn canol nos ar 24ain Chwefror 2010. Mae hi’n bosibl fydd y Cyngor ddim yn rhoi ystyriaeth i unrhyw sylwadau dod i law ar ôl y dyddiad yma.

Mae’r ddogfen newidiadau canolbwyntiedig yn cynnwys rhestr gynhwysfawr o newidiadau mae’r Cyngor yn dymuno’u gwneud i’r Cynllun Datblygu Lleol Adneuo er rhesymau eglurder, materion cydymffurfio a chywiro unrhyw wallau bychain. Mae’r newidiadau arfaethedig wedi bod yn destun Arfarniad Materion Cynaladwy.

Fydd y Cyngor ddim yn ymateb i unrhyw sylwadau’n uniongyrchol. Bydd y Datganiad o Newidiadau Canolbwyntiedig ynghyd ag ymatebion gwaith ymgynghori ar y newidiadau canolbwyntiedig yn ffurfio rhan bwysig o’r pecyn o ddogfennau sydd i’w gyflwyno ar gyfer sylw Llywodraeth y Cynulliad. Bydd y Cyngor yn casglu’r ymatebion a ddaw i law a’u cyflwyno ar gyfer sylw’r Arolygwr Cynllunio’n uniongyrchol.

Noder, dim ond y sylwadau hynny sy’n ymwneud â’r newidiadau canolbwyntiedig arfaethedig yn uniongyrchol byddwn ni’n eu derbyn. Dydy’r Cyngor ddim yn gallu derbyn sylwadau pellach ar y Cynllun Datblygu Lleol Adneuo neu wybodaeth ychwanegol yn gefn i sylwadau blaenorol. Bydd unrhyw sylwadau pellach sy’n ymwneud ag unrhyw ddogfen arall neu ran o drefn y Cynllun Datblygu Lleol yn afraid a fydd y Cyngor ddim yn rhoi ystyriaeth iddyn nhw.

Mae’r dogfennau i’w cael yma, Canolfannau IbobUn y Cyngor, a llyfrgelloedd y Fwrdeistref Sirol. Mae ffurflenni cyflwyno sylwadau ar gael yma, yn y canolfannau uchod neu swyddfeydd y Cyngor yn uniongyrchol. Yn ogystal â hynny, mae ffurflenni electronig ar gael gan y Cyngor, cysylltwch â’r Garfan Cynllunio Gwaith Datblygu ar 01443 495193.

Rhif.

 

Dogfen

1

 

Datganiad o Newidiadau Canolbwyntiedig

2

 

Map 1 Datganiad o Newidiadau Canolbwyntiedig

3

 

AMC Newidiadau Canolbwyntiedig

4

 

Focussed Changes Representations Form (English)

5

 

Ffurflen Cyflwyno Sylwadau ar y Newidiadau Canolbwyntiedig (Cymraeg)

Arweiniad Atodol Materion Cynllunio

Mae’r Cyngor wedi paratoi Arweiniad Atodol ar faterion Cynllunio (SPG) i ddibenion cyflwyno rhagor o fanylion ar bynciau penodol, polisïau a chynigion sy’n rhan o’r Cynllun Datblygu Lleol.

Mae’r Arweiniad Atodol ar faterion Cynllunio yn cynnwys arweiniad ar gyflwyno cais i’r Cyngor am ganiatâd cynllunio. Maen nhw’n cynnwys rhagor o fanylion na’r polisïau hynny sy wedi’u cynnwys yn rhan o’r Cynllun Datblygu Lleol ac maen nhw’n canolbwyntio ar bynciau sydd o ddiddordeb arbennig i’r Fwrdeistref Sirol. Dydyn nhw ddim yn meddu ar yr un statws â pholisïau’r cynllun datblygu mabwysiedig ond maen nhw i’w hystyried o bwys o ran dod i benderfyniadau ynglŷn â cheisiadau cynllunio.

Mae’r Cyngor wedi paratoi’r dogfennau canlynol ac yn croesawu’ch sylwadau chi:

• Amgylchedd Adeiladau Hanesyddol

• Gwaith Cynllunio a Llunio Lle

• Rhwymedigaethau Cynllunio

• Canllaw i Waith Cynllunio ar gyfer Perchnogion Tai

• Cadwraeth Natur

• Gofynion Mynediad, Cylchrediad a Pharcio

• Tai Fforddiadwy

• Cynllunio Canol Trefi

Bydd y cyfnod ymgynghori ar y Cynllun Datblygu Lleol yn dechrau ar 14eg Ionawr 2010 ac yn dod i ben am 5pm ar 24ain Chwefror 2010.

Mae gofyn cyflwyno sylwadau copi caled erbyn 5pm, 24ain Chwefror 2010 a sylwadau electronig erbyn canol nos ar 24ain Chwefror 2010. Mae hi’n bosibl fydd y Cyngor ddim yn rhoi ystyriaeth i unrhyw sylwadau sy’n ein cyrraedd ar ôl y dyddiad yma.

Mae’r dogfennau i’w cael yma, Canolfannau IbobUn y Cyngor, a llyfrgelloedd Cyngor y Fwrdeistref Sirol. Mae ffurflenni cyflwyno sylwadau ar gael yma, yn y canolfannau uchod neu swyddfeydd y Cyngor yn uniongyrchol. Yn ogystal â hynny, mae ffurflenni electronig ar gael gan y Cyngor, cysylltwch â’r Garfan Cynllunio Gwaith Datblygu ar 01443 495193.

Rhif.

 

Dogfen

1

 

Amgylchedd Adeiliadau Hanesyddol

2

 

Gwaith Cynllunio a Llunio Lle

3

 

Gofynion Gwaith Cynllunio

4

 

Canllaw i Waith Cynllunio ar gyfer Perchnogion Tai

5

 

Cadwraeth Natur

6

 

Gofynion Mynediad, Cylchrediad a Pharcio

6a

 

Map Ardaloedd Parcio

7

 

Tai Fforddiadwy

8

 

Cynllunio Canol Trefi

9

 

SPG Representations Form (English)

10

 

Ffurflen Cyflwyno Sylwadau ASMA (Cymraeg)

Cytundeb Gweithredu

Hoffai’r Cyngor fanteisio ar y cyfle yma i roi gwybod ichi ynglŷn â’r diweddaraf am Gytundeb Gweithredu’r Cyngor.

Mae’r Cytundeb Gweithredu’n cynnwys amserlen yr Awdurdod Cynllunio Lleol i baratoi ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol a’r Cynllun Cyfranogiad Cymunedol (CCC). Mae’r Cyngor Llawn wedi cymeradwyo’r Cytundeb Gweithredu ar y cyd â Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Ar 18fed Tachwedd 2009, penderfynodd y Cyngor i ddiwygio amserlen y cytundeb gweithredu. Cymeradwyodd Llywodraeth Cynulliad Cymru'r amserlen ddiwygiedig ar 21ain Rhagfyr 2009. Mae’r amserlen ddiwygiedig i’w gweld isod.

Rhif.

 

Dogfen

1

 

Cytundeb Gweithredu

Gwaith Ymgynghori Blaenorol

Mehefin/Gorffennaf 2009 - Gwaith Ymgynghori ar gofrestr Safleoedd Amgen. Rhwng 11eg Mawrth a 22ain Gorffennaf 2009, bu’r Cyngor yn ymgymryd â gwaith ymgynghori ar gofrestr Safleoedd Amgen. I gael rhagor o fanylion am Safleoedd Amgen, galwch heibio i dudalen Trefnau’r Cynllun Datblygu.

Chwefror/Mawrth 2009 – Gwaith Ymgynghori ar Gynllun Datblygu Lleol Adneuo (Drafft). Rhwng 5ed Chwefror a 26ain Mawrth 2009, bu’r Cyngor yn ymgymryd â gwaith ymgynghori ar y Cynllun Datblygu Lleol Adneuo (Drafft).

Chwefror/Mawrth 2009 – Arfarniad Materion Cynaladwy/ Asesiad Strategol Materion yr Amgylchedd (AMC/ASMA) ac Asesiad Rheoli Cynefin (ARhC). Rhwng 5ed Chwefror a 26ain Mawrth 2009, bu’r Cyngor yn ymgymryd â gwaith ymgynghori ar AMC/SMA a’r ARhC.

Ionawr / Chwefror 2007 – Gwaith Ymgynghori ar Strategaeth sydd orau gan y Cyngor.
Rhwng 11eg Ionawr a 21ain Chwefror 2007, bu’r Cyngor yn ymgymryd â gwaith ymgynghori ar CDLl: Strategaeth sydd Orau gan y Cyngor (2006-2021).

I gael rhagor o fanylion:

Carfan Cynllunio Gwaith Datblygu
Gwasanaeth Cynllunio ac Adfywio
Llawr 5, Uned 3
Tŷ Pennant
Catherine Street
Pontypridd
CF37 2TB
Ffôn: 01443 495193
e-bost: LDP@rhondda-cynon-taff.gov.uk

Mae arweiniad pellach ynglŷn â’r prawf cadernid i’w gael ar wefan yr Arolygiaeth Gynllunio. Cliciwch ar y ddolen gyswllt isod.

Dolennau Cyswllt

Gwefan Llywodraeth Cynulliad Cymru

Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru


Cynnwys wedi’i awdurdodi gan: Development Planning
Adolygwyd ar: 1/2/2010