
Noddir gan Amgen
Mae Raymond Lloyd yn ddylanwad cadarnhaol ar drigolion Blaenrhondda yn sgil ei ymrwymiad i ailgylchu a chadw’i ardal leol yn lân. Mae e’n gaeth i gadair olwyn ac mae’n dioddef o nifer o broblemau meddygol, ond dydy hynny ddim yn ei atal e rhag codi sbwriel yn ardal Blaenrhondda. Mae dyfais codi sbwriel a chadair olwyn drydanol ganddo fe, ac mae hynny wedi’i haddasu’n arbennig i gario’r bagiau ailgylchu mae’n eu defnyddio wrth godi sbwriel yn ei ardal leol. Wedyn mae’n didoli’r sbwriel yn ei gartref a’i roi yn y bagiau ailgylchu i’w casglu bob wythnos. Mae’n gwneud gwahaniaeth mawr trwy ailgylchu sbwriel ac mae e hefyd yn mynd i’r afael â phroblemau sbwriel y pentref. Mae’n dystiolaeth ei bod hi’n bosibl i bawb wneud gwahaniaeth.
Mae Connor a Tristan yn ailgylchwyr gweithgar, ac maen nhw’n gwneud yn siŵr bod eu hysgol nhw’n ymrwymo i ailgylchu mwy a gwastraffu llai. Bob wythnos, maen nhw’n mynd o amgylch yr ysgol er mwyn pwyso’r gwastraff a’r deunydd i’w ailgylchu mae pob dosbarth wedi’u cynhyrchu, a hynny er mwyn annog y staff a’r disgyblion i fod yn fwy ymwybodol o’r hyn mae’n bosibl iddyn nhw ei ailgylchu a’r hyn maen nhw’n ei wastraffu. Mae eu hysgol nhw wedi ennill gwobr efydd ac arian cynllun Eco-Sgolion, ac mae’r ysgol yn gweithio tuag at ennill y Faner Werdd. Maen nhw wedi cael effaith gadarnhaol trwy ailgylchu yn yr ysgol ac yn y gymuned leol.
Mae Abigail Lloyd yn ddisgybl yn Ysgol Iau Pen-y-graig. Mae hi’n weithgar o ran hyrwyddo materion ailgylchu o fewn yr ysgol ac yn y gymuned leol. Fel rhan o un o gynlluniau amgylcheddol yr ysgol, aeth Abigail ati i gynnal arolwg yn Hendrecafn Street – roedd hyn yn amlygu’r cartrefi hynny nad oedd yn ailgylchu ar y pryd. Wedyn, aeth Abigail o ddrws i ddrws er mwyn gofyn i’r preswylwyr hynny pam doedden nhw ddim yn cymryd rhan yn y cynllun. Esboniodd pa mor hawdd yw ailgylchu ac, erbyn hyn, mae’r rhan fwyaf o drigolion Hendrecafn Street yn ailgylchu. Roedd Abigail hefyd wedi cymryd rhan mewn sioe ffasiwn leol o’r enw Junk to Funk ac mae hi’n awyddus i gymryd rhan yn yr holl weithgareddau sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth ynglŷn â materion yr amgylchedd.
Noddir gan Site Serv
Mae Ysgol Gyfun Llanhari wedi creu system unigryw er mwyn helpu i fonitro’r ymwybyddiaeth ynglŷn ag ailgylchu yn yr ysgol. Mae’r Pwyllgor Eco wedi creu ‘Eco-arolwg’ ac mae meini prawf i’w ddilyn gan bob ystafell ddosbarth. Mae’r meini prawf yn rhestru categorïau, megis cael blwch ailgylchu yn yr ystafell, hyrwyddo côd eco’r ysgol, a hyd yn oed rheoli’r goleuadau a defnyddio offer trydanol mewn dull effeithiol. Mae lliw yn perthyn i bob targed o fewn y meini prawf - o goch i wyrdd - ac maen nhw’n adlewyrchu perfformiad yr ystafelloedd dosbarth (gwyrdd yw’r uchaf ac mae’n adlewyrchu lefel uchel o weithgaredd, a choch yw’r isaf). Maen nhw’n monitro’u perfformiad eu hunain bob dydd ac mae targedau’n cael eu gosod ar gyfer pob ystafell ddosbarth er mwyn codi ymwybyddiaeth ynglŷn ag ailgylchu a chynaladwyedd. Mae’r arolwg wedi cael effaith gadarnhaol ar godi ymwybyddiaeth ymhlith y staff a’r disgyblion.
Roedd sioe ffasiwn o’r enw Junk to Funk yn fenter ar y cyd rhwng Cymunedau yn Gyntaf Pen-y-graig a Dinas Isaf, Plant y Cymoedd, grwpiau cymuned a 5 o ysgolion lleol. Dyma gynllun unigryw a’r bwriad oedd ceisio codi ymwybyddiaeth ynglŷn ag ailgylchu trwy feddwl am syniadau newydd ynghylch ailddefnyddio defnyddiau. Fel rhan o’r cynllun, roedd pob ysgol wedi cynrychioli mater sy’n cael effaith ar gynhesu byd eang neu sy’n cael ei effeithio ganddo. Cafodd yr effeithiau yma’u cynrychioli gan dân, daear, aer a dŵr, a’u cynnwys yn rhan o ddyluniad y gwisgoedd. Y bwriad oedd codi ymwybyddiaeth ynglŷn â ffyrdd unigol o fyw a’r effaith rydyn ni’n ei chael ar yr amgylchedd, yn ogystal â meddwl am ddulliau eraill o ran ailddefnyddio gwastraff.
Dyma gynllun ar y cyd rhwng Ysgol Gynradd Cap-coch a Chymunedau yn Gyntaf Abercwmboi. Roedd y cynllun wedi ailddefnyddio deunyddiau er mwyn creu dyn gwyrdd wrth fynedfa’r ysgol. Bwriad y cynllun oedd atgoffa pobl am y broses o ailgylchu ac annog y gymuned i fod yn greadigol wrth feddwl am ddeunyddiau bob dydd. Cafodd y dyn gwyrdd ei greu mewn gweithdai gan ddisgyblion blwyddyn 6. Roedd hyn hefyd wedi datblygu’u sgiliau cydweithio a chyfathrebu, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ran y prosesau ailgylchu, a'u hysbrydoli nhw i fod yn fwy creadigol. Mae’r cerflun yn ffordd ddyfeisgar o drosglwyddo’r neges i’r gymuned o ran ailgylchu ac mae’n ddull hwyl i blant ddysgu.
Noddir gan Gadwch Gymru’n Daclus
Mae Ysgol Gynradd Brynnau wedi llwyddo i greu gardd i’r gymuned ddiolch i ymdrech y staff, cyngor yr ysgol a’r cyngor eco. Maen nhw wedi gweithio gyda’r gymuned er mwyn adfywio’r tir diffaith gyferbyn â’r ysgol. Mae’r cynllun wedi cyfrannu at ddod â’r gymuned at ei gilydd. Mae’r cynllun hefyd wedi cydweithio gyda Gwasanaethau’r Amgylchedd, Gweithwyr Ieuenctid yn y Maes, Cyngor y Gymuned, yr Ymddiriedolaeth Natur a’r Heddlu lleol. Erbyn hyn, mae yno ardd i’r gymuned ac ystafell ddosbarth awyr agored sy’n adnodd hanfodol o ran dysgu am ddatblygiad cynaliadwy ym mhob pwnc. Helpu pobl eraill i lwyddo yw arwyddair yr ysgol, ac mae’r cynllun yn destun balchder i weddill y gymuned.
Mae Ysgol Gynradd Tref-y-rhyg wedi trawsnewid iard goncrid yr ysgol yn llecyn lliwgar gyda blodau llachar. Mae aelodau o staff, disgyblion, llywodraethwyr, rhieni, mamau-cu a thadau-cu wedi cyfrannu at y cynllun yma, sydd wedi dod â’r gymuned at ei gilydd. Mae gwelyau blodau a theiars mawr wedi’u troi’n botiau blodau yn yr iard. Maen nhw hefyd wedi cael cymorth gan garfan Trefi Taclus i osod dec a phwll dŵr. Er gwaethaf y problemau, megis fandaliaeth a materion ariannol, maen nhw wedi llwyddo i greu amgylchedd gwell. Mae rhagor o gynlluniau ganddyn nhw i adfywio tir yr ysgol ac, ar hyn o bryd, maen nhw wrthi’n adeiladu tŷ gwydr gan ailddefnyddio poteli plastig.
Mae Generation Hand in Hand yn gynllun partneriaeth sydd wedi’i ddatblygu ar dir rhwng Cartref Preswyl Maes y Ffynnon ac Ysgol Gynradd Blaen-gwawr. Mae’r tir braenar wedi’i drawsnewid yn llecyn gwyrdd a ffrwythlon i’w ddefnyddio ar gyfer dysgu, chwarae a chymdeithasu. Mae’r bobl ifainc a’r gwirfoddolwyr hŷn wedi cymdeithasu yn sgil y cynllun yma. Mae’r safle wedi’i ddatblygu fel ei fod e’n cynnwys nodweddion unigryw megis amffitheatr o wair, campfa awyr agored a mannau ar gyfer bywyd gwyllt, gan gynnwys lleiniau garddio a llwybrau. Dyma enghraifft dda o’r hyn sy’n bosibl ei gyflawni mewn ysgol fro.
Mae Ysgol Gyfun Llanhari wedi creu system unigryw er mwyn helpu i fonitro’r ymwybyddiaeth ynglŷn ag ailgylchu yn yr ysgol. Mae’r Pwyllgor Eco wedi creu ‘Eco-arolwg’ ac mae meini prawf i’w ddilyn gan bob ystafell ddosbarth. Mae’r meini prawf yn rhestru categorïau, megis cael blwch ailgylchu yn yr ystafell, hyrwyddo côd eco’r ysgol, a hyd yn oed rheoli’r goleuadau a defnyddio offer trydanol mewn dull effeithiol. Mae lliw yn perthyn i bob targed o fewn y meini prawf - o goch i wyrdd - ac maen nhw’n adlewyrchu perfformiad yr ystafelloedd dosbarth (gwyrdd yw’r uchaf ac mae’n adlewyrchu lefel uchel o weithgaredd, a choch yw’r isaf). Maen nhw’n monitro’u perfformiad eu hunain bob dydd ac mae targedau’n cael eu gosod ar gyfer pob ystafell ddosbarth er mwyn codi ymwybyddiaeth ynglŷn ag ailgylchu a chynaladwyedd. Mae’r arolwg wedi cael effaith gadarnhaol ar godi ymwybyddiaeth ymhlith y staff a’r disgyblion.
Noddir gan Bartneriaeth Cymunedau Diogel
Mae Generation Hand in Hand yn gynllun partneriaeth sydd wedi’i ddatblygu ar dir rhwng Cartref Preswyl Maes y Ffynnon ac Ysgol Gynradd Blaen-gwawr. Mae’r tir braenar wedi’i drawsnewid yn llecyn gwyrdd a ffrwythlon i’w ddefnyddio ar gyfer dysgu, chwarae a chymdeithasu. Mae’r bobl ifainc a’r gwirfoddolwyr hŷn wedi cymdeithasu yn sgil y cynllun yma. Mae’r safle wedi’i ddatblygu fel ei fod e’n cynnwys nodweddion unigryw megis amffitheatr o wair, campfa awyr agored a mannau ar gyfer bywyd gwyllt, gan gynnwys lleiniau garddio a llwybrau. Dyma enghraifft dda o’r hyn sy’n bosibl ei gyflawni mewn ysgol fro.
Roedd sioe ffasiwn o’r enw Junk to Funk yn fenter ar y cyd rhwng Cymunedau yn Gyntaf Pen-y-graig a Dinas Isaf, Plant y Cymoedd, grwpiau cymuned a 5 o ysgolion lleol. Dyma gynllun unigryw a’r bwriad oedd ceisio codi ymwybyddiaeth ynglŷn ag ailgylchu trwy feddwl am syniadau newydd ynghylch ailddefnyddio defnyddiau. Fel rhan o’r cynllun, roedd pob ysgol wedi cynrychioli mater sy’n cael effaith ar gynhesu byd eang neu sy’n cael ei effeithio ganddo. Cafodd yr effeithiau yma’u cynrychioli gan dân, daear, aer a dŵr, a’u cynnwys yn rhan o ddyluniad y gwisgoedd. Y bwriad oedd codi ymwybyddiaeth ynglŷn â ffyrdd unigol o fyw a’r effaith rydyn ni’n ei chael ar yr amgylchedd, yn ogystal â meddwl am ddulliau eraill o ran ailddefnyddio gwastraff.
Mae ‘Her yr Haf’ yn gynllun llwyddiannus sydd wedi cael ei gynnal ers dwy flynedd. Mae’r cynllun yn cyfuno gweithgareddau sy’n hwyl, addysg anffurfiol, dysgu sgiliau newydd a chymwysterau - a’r holl beth yn rhan o gynllun adfywio’r ardal. Mae’r cynllun yn cynnig cyfle i unigolion o bob oed gymryd rhan a gwella’r gymuned. Mae cerflun ar gyfer y gymuned (wedi’i ddylunio gan aelodau’r gymuned) wedi bod yn fenter ar y cyd gyda GAFA ac Ymlaen Glyn-coch, a’i hariannwyd gan Gartrefi RhCT. Mae murlun hefyd wedi’i greu gan yr aelodau iau. Maen nhw hefyd wedi gweithio tuag at wella ardaloedd yn y gymuned. Maen nhw’n bwriadu datblygu ac adfywio ardaloedd difreintiedig eraill yn y gymuned. Dyma gynllun sy’n anelu at fod o fudd i’r genhedlaeth yma a chenedlaethau’r dyfodol ac maen nhw’n bwriadu trosglwyddo’r ymwybyddiaeth a’r cyfrifoldeb ymlaen er lles y gymuned.
Noddir gan ECA
Dyma gynllun ar y cyd rhwng Ysgol Gynradd Cap-coch a Chymunedau yn Gyntaf Abercwmboi. Roedd y cynllun wedi ailddefnyddio deunyddiau er mwyn creu dyn gwyrdd wrth fynedfa’r ysgol. Bwriad y cynllun oedd atgoffa pobl am y broses o ailgylchu ac annog y gymuned i fod yn greadigol wrth feddwl am ddeunyddiau bob dydd. Cafodd y dyn gwyrdd ei greu mewn gweithdai gan ddisgyblion blwyddyn 6. Roedd hyn hefyd wedi datblygu’u sgiliau cydweithio a chyfathrebu, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ran y prosesau ailgylchu, a'u hysbrydoli nhw i fod yn fwy creadigol. Mae’r cerflun yn ffordd ddyfeisgar o drosglwyddo’r neges i’r gymuned o ran ailgylchu ac mae’n ddull hwyl i blant ddysgu.
Roedd sioe ffasiwn o’r enw Junk to Funk yn fenter ar y cyd rhwng Cymunedau yn Gyntaf Pen-y-graig a Dinas Isaf, Plant y Cymoedd, grwpiau cymuned a 5 o ysgolion lleol. Dyma gynllun unigryw a’r bwriad oedd ceisio codi ymwybyddiaeth ynglŷn ag ailgylchu trwy feddwl am syniadau newydd ynghylch ailddefnyddio defnyddiau. Fel rhan o’r cynllun, roedd pob ysgol wedi cynrychioli mater sy’n cael effaith ar gynhesu byd eang neu sy’n cael ei effeithio ganddo. Cafodd yr effeithiau eu cynrychioli gan dân, daear, aer a dŵr, a’u cynnwys yn rhan o ddyluniad y gwisgoedd. Y bwriad oedd codi ymwybyddiaeth ynglŷn â ffyrdd unigol o fyw a’r effaith rydyn ni’n ei chael ar yr amgylchedd, yn ogystal â meddwl am ddulliau eraill o ran ailddefnyddio gwastraff.
Mae ‘Her yr Haf’ yn gynllun llwyddiannus sydd wedi cael ei gynnal ers dwy flynedd. Mae’r cynllun yn cyfuno gweithgareddau sy’n hwyl, addysg anffurfiol, dysgu sgiliau newydd a chymwysterau - a’r holl beth yn rhan o gynllun adfywio’r ardal. Mae’r cynllun yn cynnig cyfle i unigolion o bob oed gymryd rhan a gwella’r gymuned. Mae cerflun ar gyfer y gymuned (wedi’i ddylunio gan aelodau’r gymuned) wedi bod yn fenter ar y cyd gyda GAFA ac Ymlaen Glyn-coch, a’i hariannwyd gan Gartrefi RhCT. Mae murlun hefyd wedi’i greu gan yr aelodau iau. Maen nhw hefyd wedi gweithio tuag at wella ardaloedd yn y gymuned. Maen nhw’n bwriadu datblygu ac adfywio ardaloedd difreintiedig eraill yn y gymuned. Dyma gynllun sy’n anelu at fod o fudd i’r genhedlaeth yma a chenedlaethau’r dyfodol ac maen nhw’n bwriadu trosglwyddo’r ymwybyddiaeth a’r cyfrifoldeb ymlaen er lles y gymuned.
Noddir gan garfan Gofal Strydoedd Rhondda Cynon Taf
Mae’r rheolwr glanhau, y goruchwylwyr a’u carfanau wedi mabwysiadu agwedd gadarnhaol tuag at ddarparu gwasanaeth glanhau effeithlon ac effeithiol. Maen nhw wedi hyrwyddo newidiadau o ran dulliau glanhau, e.e. rhoi mwy o bwyslais ar frwsio ac ysgubo, yn hytrach na chanolbwyntio’n llwyr ar godi sbwriel. Mae’r newid yma wedi cael ei amlygu gan adroddiad Cadwch Gymru’n Daclus, sy’n cydnabod gwelliant o ran glendid ein strydoedd ni. Mae hyn o ganlyniad i ymroddiad y Goruchwylwyr Glanhau a’u carfanau nhw.
Sefydlwyd Carfan Trefi Taclus er mwyn mynd i’r afael â materion amgylcheddol ar y cyd â chymunedau, ysgolion a thrigolion lleol. Maen nhw wedi cyflawni dros 90 o brosiectau ers iddyn nhw gael eu sefydlu. Mae gofyn bod y prosiectau yn gynaliadwy ac i’w cynnal yn y dyfodol gan y grwpiau sy’n eu hawgrymu nhw. Mae’r prosiectau sy’n cael eu cynnal yn cynnwys torri planhigion sydd wedi tyfu’n wyllt, adeiladu cylchoedd boncyffion / ystafelloedd dosbarth awyr agored, darparu lleiniau garddio i ysgolion, a darparu llwybrau cefn gwlad a lleoedd picnic. Mae’r garfan wedi cael ei chanmol yn sgil eu hymdrechion nhw ac maen nhw wedi ychwanegu cyswllt hanfodol i’r gwaith mae Gwasanaethau Gofal Strydoedd yn ei gyflawni. Mae’r garfan yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru trwy ymgyrch Trefi Taclus.
Mae’r garfan fechan yma yn un dra hysbys ac yn un sy’n cael ei pharchu gan y gymuned leol yn sgil ei gwaith yn y cyfleusterau cyhoeddus yn Monk Street a gorsaf y bysiau. Yn ôl y sawl sy’n defnyddio’r cyfleusterau cyhoeddus, maen nhw’n gyfeillgar ac yn groesawgar. Maen nhw’n ymfalchïo yn eu gwaith o fewn y cyfleusterau cyhoeddus ac yn yr ardal gyfagos. Maen nhw’n codi sbwriel yn rheolaidd yn yr ardal gyfagos er mwyn ei ailgylchu a gwella’r amgylchedd. Pe bai rhywun yn gollwng sbwriel, maen nhw’n gofyn iddyn nhw beidio â’i wneud. Maen nhw o hyd yn barod i gynnig cymorth i’r cyhoedd, megis rhoi cyfarwyddiadau, cynnig cymorth i’r bobl hynny sydd ei eisiau, a gofalu am y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.
Noddir gan Costain
Lauren Holmes yw is-gadeirydd Pwyllgor Eco’r Ysgol, ac mae hi wedi bod yn aelod gweithgar ers i’r pwyllgor gael ei sefydlu bedair mlynedd yn ôl. A hithau’n is-gadeirydd, mae hi wedi cyfrannu at ddatblygu cynlluniau gweithredu a’u rhoi nhw ar waith, yn ogystal â chyfrannu at gyrraedd targedau yn sgil ei dull gweithredol o fynd ati. Mae hi wedi cymryd rhan ym mhopeth, gan gynnwys codi sbwriel, sefydlu mentrau ailgylchu, rhoi cyflwyniadau ac mae hi wedi sefydlu ymgyrch i arbed ynni. Mae ei brwdfrydedd a’i hymrwymiad wedi bod yn bennaf gyfrifol am lwyddiant y Pwyllgor Eco.
Mae Connor a Tristan yn ailgylchwyr gweithgar, ac maen nhw’n gwneud yn siŵr bod eu hysgol nhw’n ymrwymo i ailgylchu mwy a gwastraffu llai. Bob wythnos, maen nhw’n mynd o amgylch yr ysgol er mwyn pwyso’r gwastraff a’r deunydd i’w ailgylchu mae pob dosbarth wedi’u cynhyrchu, a hynny er mwyn annog y staff a’r disgyblion i fod yn fwy ymwybodol o’r hyn mae’n bosibl iddyn nhw ei ailgylchu a’r hyn maen nhw’n ei wastraffu. Mae eu hysgol nhw wedi ennill gwobr Eco Efydd ac Arian, ac mae’n gweithio tuag at ennill Baner Werdd. Maen nhw wedi cael effaith gadarnhaol trwy ailgylchu yn yr ysgol ac yn y gymuned leol.
Mae Abigail Lloyd yn ddisgybl yn Ysgol Iau Pen-y-graig. Mae hi’n weithgar o ran hyrwyddo materion ailgylchu o fewn yr ysgol ac yn y gymuned leol. Fel rhan o un o gynlluniau amgylcheddol yr ysgol, aeth Abigail ati i gynnal arolwg yn Hendrecafn Street - roedd hyn yn amlygu’r cartrefi hynny nad oedd yn ailgylchu ar y pryd. Wedyn, aeth Abigail o ddrws i ddrws er mwyn gofyn i’r preswylwyr hynny pam doedden nhw ddim yn cymryd rhan yn y cynllun. Esboniodd pa mor hawdd yw ailgylchu ac, erbyn hyn, mae’r rhan fwyaf o drigolion Hendrecafn Street yn ailgylchu. Roedd Abigail hefyd wedi cymryd rhan mewn sioe ffasiwn leol o’r enw Junk to Funk ac mae hi’n awyddus i gymryd rhan yn yr holl weithgareddau sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth ynglŷn â materion yr amgylchedd.
Mae Charlotte McCauly yn aelod o Gyngor y Disgyblion ac mae hi’n cymryd rhan yn holl weithgareddau amgylcheddol yr ysgol, megis cynorthwyo ar y stondin ffrwythau a chynnal twnnel polythen a gardd yr ysgol, sydd wedi’u datblygu trwy blannu coed a gosod pwll dŵr. Mae hi’n annog pobl eraill i gymryd rhan mewn cyflwyniadau yn y gymuned ac mae hi’n ceisio’i gorau glas i wella amgylchedd yr ysgol a’r gymuned leol.
Mae nifer o hyrwyddwyr amgylcheddol yn Ysgol Gynradd Cilfynydd, ac mae’r ysgol gyfan yn llawn amgylcheddwyr brwd. Maen nhw’n ailgylchu cymaint ag sy’n bosibl yn yr ystafelloedd dosbarth, y ffreutur ac iard yr ysgol. Mae gwastraff bwyd a llysiau’n cael eu compostio a’u defnyddio yng ngardd yr ysgol a’r llain lysiau maen nhw wedi’u creu. Mae’r ysgol wedi trefnu bod sbwriel yn cael ei godi yn yr iard bob dydd ac yn gwneud yn siŵr bod yr holl ddisgyblion yn ymwybodol eu bod nhw’n gyfrifol am eu gwastraff eu hunain. Maen nhw’n cymryd eu hagwedd gadarnhaol tuag at yr amgylchedd ac ailgylchu allan i’r gymuned er mwyn ei gwneud hi’n lle gwell i fyw. Ar hyn o bryd, maen nhw’n gweithio tuag at ennill eu gwobr Eco-Sgolion gyntaf ac maen nhw’n gobeithio bydd yr enwebiad yma’n gydnabyddiaeth o waith caled yr holl ddisgyblion.
Mae Trent Harris yn aelod gweithgar o Bwyllgor Eco Ysgol Iau’r Porth a fe yw’r is-ysgrifennydd. Mae’n cymryd cofnodion ym mhob cyfarfod ac mae’n rhoi’r newyddion diweddaraf i’r ecoryfelwyr a’r ysgol ynglŷn â phob trafodaeth. Mae’n cyfrannu at gadw’r ysgol yn lân ac mae’n cyfrannu at bob agwedd ar waith y Pwyllgor Eco mewn dull gweithgar. Mae e hefyd wedi arwain cynllun o wella tir yr ysgol trwy blannu a chynllunio gwasanaethau at ddefnydd ei gyd-ddisgyblion. Mae e o hyd yn edrych ar ôl ei ysgol leol a’i amgylchedd yn ei amser hamdden.
Noddir gan Costain
Mae Mr Thomas wedi mynd i’r afael â materion amgylcheddol a sefydlu Pwyllgor Eco a grŵp o ddisgyblion ecogyfeillgar o bob oed. Mae e wedi gweithio’n agos gyda Gwasanaethau Gofal Strydoedd ac Asiantaeth yr Amgylchedd er mwyn troi Ysgol Uwchradd Pontypridd yn ysgol ddiwastraff. Mae ei fentrau’n golygu bod pob ystafell ddosbarth unigol yn gyfrifol am faterion gwastraff ac ailgylchu, a hynny drwy gael gwared ar y biniau sbwriel a gosod mannau ailgylchu canolog yn eu lle. Mae e hefyd wedi trefnu sesiynau codi sbwriel sydd o fudd i dir yr ysgol a’r amgylchedd lleol. Mae gwastraff bwyd o gegin yr ysgol yn cael ei ailgylchu’n ogystal. Dyma unigolyn ymroddgar sy’n ceisio troi Ysgol Uwchradd Pontypridd yn ysgol ddiwastraff yn ystod ei amser hamdden.
Mae ymrwymiad Eryl Davies o Ysgol Gynradd Tref-y-rhyg wedi trawsnewid iard goncrid yr ysgol yn llecyn lliwgar gyda blodau llachar. Mae aelodau o staff, disgyblion, llywodraethwyr, rhieni, mamau-cu a thadau-cu wedi cyfrannu at y cynllun yma, sydd wedi dod â’r gymuned at ei gilydd. Mae gwelyau blodau a theiars mawr wedi’u troi’n botiau blodau yn yr iard. Mae nhw hefyd wedi cael cymorth gan garfan Trefi Taclus i osod dec a phwll dŵr. Er gwaethaf y problemau, megis fandaliaeth a materion ariannol, maen nhw wedi llwyddo i greu amgylchedd gwell. Mae rhagor o gynlluniau ganddyn nhw i adfywio tir yr ysgol ac, ar hyn o bryd, maen nhw wrthi’n adeiladu tŷ gwydr gan ailddefnyddio poteli plastig.
Gyda chymorth Siân Dennett, mae Ysgol Gynradd Brynnau wedi llwyddo i greu gardd i’r gymuned ddiolch i ymdrech y staff, cyngor yr ysgol a’r cyngor eco. Maen nhw wedi gweithio gyda’r gymuned er mwyn adfywio tir diffaith gyferbyn â’r ysgol. Mae’r cynllun wedi cyfrannu at ddod â’r gymuned at ei gilydd. Mae’r cynllun hefyd wedi cydweithio gyda Gwasanaethau’r Amgylchedd, Gweithwyr Ieuenctid yn y Maes, Cyngor y Gymuned, yr Ymddiriedolaeth Natur a’r Heddlu lleol. Erbyn hyn, mae yno ardd i’r gymuned ac ystafell ddosbarth awyr agored sy’n adnodd hanfodol o ran dysgu am ddatblygiad cynaliadwy ym mhob pwnc. Helpu pobl eraill i lwyddo yw arwyddair yr ysgol, ac mae’r cynllun yn destun balchder i weddill y gymuned.
Noddir gan Wormtech
Mae Ian Stuckey wedi gweithio dros yr awdurdod lleol fel hewlwr yng nghanol tref Pontypridd ers 9 mlynedd, ac mae e wedi bod yn aelod ffyddlon o staff. Dydy e heb fod yn absennol o’r gwaith ers dechrau’i swydd. Mae e erioed wedi dangos ymrwymiad ac mae e bob tro’n mynd ymhellach na’i ddyletswyddau arferol gan wneud yn siŵr does dim biniau’n gorlenwi, dim sbwriel na baw cŵn yng nghanol tref Pontypridd. Mae ei ymrwymiad i’r ardal wedi cael cydnabyddiaeth a chanmoliaeth gan yr Uwch Reolwyr, y Cynghorwyr a’r cyhoedd. Bydd y wobr yma’n ysbrydoli cydweithwyr Ian fod gwaith caled yn cael cydnabyddiaeth a chanmoliaeth.
Mae Richard Jones yn aelod o garfan Trefi Taclus. Sefydlwyd Carfan Trefi Taclus er mwyn mynd i’r afael â materion amgylcheddol ar y cyd â chymunedau, ysgolion a thrigolion lleol. Maen nhw wedi cyflawni dros 90 o brosiectau ers iddyn nhw gael eu sefydlu. Mae gofyn bod y prosiectau yn gynaliadwy ac i’w cynnal yn y dyfodol gan y grwpiau sy’n eu hawgrymu nhw. Mae’r prosiectau sy’n cael eu cynnal yn cynnwys torri planhigion sydd wedi tyfu’n wyllt, adeiladu cylchoedd boncyffion / ystafelloedd dosbarth awyr agored, darparu lleiniau garddio i ysgolion, a darparu llwybrau cefn gwlad a lleoedd picnic. Mae’r garfan wedi cael ei chanmol yn sgil eu hymdrechion nhw ac maen nhw wedi ychwanegu cyswllt hanfodol i’r gwaith mae Gwasanaethau Gofal Strydoedd yn ei gyflawni.
Mae Dean wedi gweithio dros Garfan Materion Gorfodi ers 3 ½ mlynedd ac mae e’n aelod gwerthfawr o’r garfan. Mae’n rhagweithiol o ran mynd i’r afael â throseddau amgylcheddol ac, yn ddiweddar, mae e wedi ymweld â’r ysgolion er mwyn hyrwyddo’r difrod sy’n cael ei achosi gan sbwriel, baw cŵn a dadlwytho sbwriel yn anghyfreithlon. Mae Dean yn barod i fynd i’r afael â’r materion anodd sy’n mynd law yn llaw â’r swyddogaethau, ac mae’n eu cyflawni nhw mewn dull proffesiynol iawn. Bydd e o hyd yn mynd cam ymhellach ac mae’n barod i gynnig cymorth ynglŷn â phob agwedd ar faterion gofal strydoedd ac mae’n cyfleu delwedd gadarnhaol o’r gwasanaeth. Mae’r gwaith mae Dean wedi’i gyflawni ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf wedi bod o fudd i’r trigolion, a hynny trwy lanhau mannau penodol a gwneud yr amgylchedd yn fwy glân ac yn fwy diogel.
Noddir gan Integrated Graphics
Mae’r wobr yma’n mynd i enillwyr cystadleuaeth Envirovision Song Quest 2009. Yn gyntaf oedd Ysgol Uwchradd y Ddraenen-wen a oedd wedi cymryd rhan mewn prosiect a oedd yn para dau ddiwrnod. Roedden nhw wedi mynychu gweithdai ysgrifennu geiriau, cyfansoddi cerddoriaeth a pherfformio yng Nghanolfan Gelf y Miwni, Pontypridd.
Noddir gan Clarkslegal
Cwmni Costain yw prif gontractwr Ffordd Osgoi Pentre’r Eglwys ar ran Rhondda Cynon Taf. Fel rhan o’r cynllun mawr yma, sydd werth £90 miliwn, roedd eisiau i gwmni Costain gyflawni Lliniariad Ecolegol er mwyn gwneud yn siŵr bod rhywogaethau dan warchodaeth yn cael eu diogelu. Maen nhw wedi ceisio’u gorau glas wrth gyflawni’r broses yma ac mae hynny’n amlwg wrth ystyried y pyllau dŵr, pontydd ar gyfer pathewod, twneli ar gyfer dyfrgwn, dros 80 o flychau ar gyfer ystlumod ac adar, twneli ar gyfer moch daear, a gaeafleoedd ar gyfer ymlusgiaid. Mae’r cwmni hefyd wedi lleihau’r gwaith symud tir drwy ddefnyddio deunyddiau eraill, megis hen deiars a thirlenwi anadweithiol. Maen nhw hefyd yn ailgylchu’n frwd - mae 90% o’r gwastraff sydd wedi’i gynhyrchu ar y safle heb gael ei anfon i’r safleoedd tirlenwi. Mae’r cwmni’n anelu at leihau ei ôl troed carbon, lefelau wastraff, lefelau ynni, a’i ddefnydd o ddeunyddiau crai.
Cwmni Amgen Cymru sy’n gwaredu gwastraff ar ran yr awdurdod lleol. Mae’r cwmni’n cynnig cyfleuster ardderchog o ran rheoli, ailgylchu ac ailbrosesu gwastraff. Maen nhw’n cynnig gwasanaeth ailgylchu gwastraff sych sy’n ei gwneud hi’n bosibl i breswylwyr ailgylchu neu ailddefnyddio mwy neu lai unrhyw eitem o’r cartref, a gwasanaeth ar raddfa fawr i fusnesau. Mae’r cwmni hefyd yn darparu ac yn cynnal Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned, megis y ganolfan yn Nhrefforest sydd wedi ennill gwobrau. Mae cwmni Amgen o hyd yn ceisio’i orau glas i gynyddu nifer y deunyddiau mae’n bosibl eu hailgylchu, eu hailddefnyddio a’u hailgyfeirio oddi wrth y safleoedd tirlenwi, a hynny er mwyn gwella’r amgylchedd.
Sefydlwyd cynllun Biniau Gwyrdd yn 2009 er mwyn creu biniau bychain a fyddai’n annog y plant i ailgylchu. Mae pren yn cael ei ailddefnyddio er mwyn creu’r biniau, a daw’r pren yma o rwydwaith o gysylltiadau maen nhw wedi’u creu eu hunain. Mae’r busnes yn ceisio datblygu cysylltiadau gyda’r ysgolion cynradd ar gyfer y cynnyrch, ac maen nhw hefyd yn cynnig canran i’r ysgolion er mwyn rhoi cymorth i’w cynlluniau Eco-Sgolion eu hunain, fel y byddan nhw’n ariannu eu cynllun ailgylchu’u hunain ac yn cynnig cymorth i ysgolion eraill ddatblygu’u cynlluniau nhw hefyd. Maen nhw’n weithgar iawn, ac maen nhw wedi meithrin cysylltiadau gyda chwmnïau megis Amgen Cymru a Land Phil Recycling Limited er mwyn meddwl am ragor o syniadau, cynnyrch a gwasanaethau. Maen nhw’n anelu at hyrwyddo’u menter ailgylchu mewn ysgolion eraill gyda’r gobaith y bydd hi’n lledu ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf.
Noddir gan Site Serv
Mae Eric James wedi byw yn Aberpennar drwy gydol ei fywyd, ac mae cadw’i ardal leol yn dwt ac yn daclus yn bwysig iddo fe. Mae’n codi sbwriel wrth gyflawni ei ddyletswyddau bob dydd ac mae’n mynd ati i annog aelodau eraill o’r gymuned i dderbyn cyfrifoldeb dros eu hardal a chyfrannu at wella’u cymuned. Yn sgil ei waith a’i ymrwymiad, mae Cymunedau’n Gyntaf y Darren Las erbyn hyn yn trefnu sesiynau codi sbwriel a chynlluniau amgylcheddol, a hynny er mwyn annog pawb i weithio tuag at wneud yr amgylchedd yn fwy glân ac yn fwy diogel.
Mae Raymond Lloyd yn ddylanwad cadarnhaol ar drigolion Blaenrhondda yn sgil ei ymrwymiad i ailgylchu a chadw’i ardal leol yn lân. Mae e’n gaeth i gadair olwyn ac mae’n dioddef o nifer o broblemau meddygol, ond dydy hyn ddim yn ei atal e rhag codi sbwriel yn ardal Blaenrhondda. Mae dyfais codi sbwriel chadair olwyn drydanol ganddo fe, ac mae hynny wedi’i haddasu’n arbennig i gario bagiau ailgylchu - mae’n defnyddio’r rhain wrth godi sbwriel yn ei ardal leol. Wedyn mae’n didoli’r sbwriel yn ei gartref a’i roi yn y bagiau ailgylchu i’w casglu bob wythnos. Mae’n gwneud gwahaniaeth mawr trwy ailgylchu sbwriel ac mae e hefyd yn mynd i’r afael â phroblemau sbwriel y pentref. Mae’n dystiolaeth ei bod hi’n bosibl i bawb wneud gwahaniaeth.
Mae Ian Stuckey wedi gweithio dros yr awdurdod lleol fel hewlwr yng nghanol tref Pontypridd ers 9 mlynedd, ac mae e wedi bod yn aelod ffyddlon o staff. Dydy e heb fod yn absennol o’r gwaith ers dechrau’i swydd. Mae e erioed wedi dangos ymrwymiad ac mae e bob tro’n mynd ymhellach na’i ddyletswyddau arferol gan wneud yn siŵr does dim biniau’n gorlenwi, dim sbwriel na baw cŵn yng nghanol tref Pontypridd. Mae ei ymrwymiad i’r ardal wedi cael cydnabyddiaeth a chanmoliaeth gan yr Uwch Reolwyr, y Cynghorwyr a’r cyhoedd. Bydd y wobr yma’n ysbrydoli cydweithwyr Ian fod gwaith caled yn cael cydnabyddiaeth a chanmoliaeth.
Hoffwn ni ddiolch pob un o’r beirniaid am gymryd rhan yn yr achlysur yma.
George Jones, Cyfarwyddwr Cyfadran Gwasanaethau Amgylchedd RhCT
Nigel Wheeler, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gofal Strydoedd RhCT
Brian Houston, Rheolwr Isadran Materion Datblygu Cynaliadwy RhCT / Rheolwr Materion Diogelwch y Ffyrdd
John Harrison, Asiantaeth yr Amgylchedd
Hoffwn ni ddiolch pob un o’r noddwyr am gefnogi’r achlysur yma.
Costain
Amgen
Integrated Graphics
ECA
Clarkslegal
SiteServ
RCT Streetcare Services
Wormtech
Partneriaeth Cymunedau Diogel Rhondda Cynon Taf
