Mae Rhondda Cynon Taf yn cynnal nifer o gyfleusterau chwaraeon a hamdden gan gynnwys 11 o ganolfannau hamdden, dros 30 o ganolfannau yn y gymuned, 15 o byllau padlo ac ystod o gynlluniau chwarae gydol yr haf. Mae cyfle hefyd i wneud sblash mawr yn un o’n 8 pwll nofio.
Mae ystod eang o gyrsiau a dosbarthiadau ar gyfer pobl o bob oedran a gallu ar gael gydol y flwyddyn mewn canolfannau hamdden.
Mae cyfleusterau cynadledda ac ystafelloedd achlysuron yn addas ar gyfer partïon i blant a dathliadau eraill hefyd ar gael i’w llogi.
Dyma restr o’r 11 canolfan hamdden:
Canolfan Chwaraeon Abercynon
Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda, Ystradyfodwg
Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda Fach, Tylorstown
Canolfan Chwaraeon Michael Sobell
Canolfan Hamdden Llanilltud Faerdref
Canolfan Hamdden Llantrisant
Canolfan Hamdden Tonyrefail
Canolfan Hamdden y Ddraenen-wen
Pwll Nofio Aberdâr
Pwll Nofio Bronwydd, Y Porth
Pwll Nofio’r Ddraenen-wen
Cliciwch ar y dogfennau gyferbyn i gael rhagor o fanylion ar yr hyn sydd ar gael ac ym mhle.
Cysylltwch â ni
I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â ni:
Ffôn: 01443 400563